Os oes gennych ddiddordeb mewn gweithio gyda mi, gallwn drefnu i gwrdd am ymgynghoriad cychwynnol. Mae hyn yn rhoi cyfle ichi ddarganfod a yw cwnsela ar eich cyfer chi, i ofyn unrhyw gwestiynau pellach ac i ni weithio allan efo’n gilydd beth fydd orau i chi a sut orau i fynd ymlaen.
Mae sesiynau cwnsela fel arfer yn para am awr, er y gall gael mwy o amser gyda’n gilydd fod o gymorth weithiau. Mae nifer y sesiynau ac amlder yn amrywio o berson i berson ac fe’i cytunir rhyngom ni.
Fy ffi safonol yw £70 am sesiwn. Weithiau gallaf gynning cyfradd is os yw eich cyllid yn gyfyngedig.
Mae’r lle rwy’n gweithio yn breifat a chyfrinachol ac mae yna barcio tu allan.
Os oes angen i chi ganslo un o'n sesiynau, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech roi rhybudd 24 awr i mi. Os nad oeddech yn gallu rhoi gwybod i mi am ganslo o fewn yr amser hwn, byddai angen i mi godi tal am y sesiwn,