• Skip to primary navigation
  • Skip to content
  • Skip to footer

Cathrin WIldwood

Cwnsela

  • Hafan
  • Cwnsela a Seicotherapi
  • Penodiadau
  • Y Ffordd Rwy’n Gweithio
  • Amdanaf i
  • Cwestiynnau
  • Cysylltwch
  • en English

Cwnsela a Seicotherapi

Mae cwnsela yn rhoi cyfle i chi archwilio beth sydd yn digwydd mewn lle diogel,  gyfrinachol a chefnogol. Dydw i ddim yn beirniadu, yn cymryd ochr nac yn dweud wrthoch beth i’w neud. 

Fy mwriad yw adeiladu perthynas therapiwtig gwirioneddol ddibyniadwy lle yr ydwyt yn teimlo fy mod yn gwrando, deall ac yn gofalu amadanat, dy gefnogi ac yn parchu ti.

Mae cymryd rhan mewn cwnsela yn golygu ymrwymiad a gonestrwydd. Gall weithiau fod yn anodd, yn heriol ac yn ofidus, er yn y pen draw yn fuddiol neu hyd yn oed yn newid bywyd mewn ffyrdd efallai na fyddyt yn rhagweld. Mae dod i cwnsela ddim yn meddwl fod unrhyw beth yn bod arnat ti neu dy fod yn wallgof, er hynny gallai olygu dy fod yn teimlo ar goll, yn drist, yn ofidus ac yn ansicr amando dy hun a dy fywyd mewn rhyw ffordd. Mae cwnsela yn ymwneud a gwella’ch gallu i iechyd a lles, am deimlo’n fyw, ymddiried yn eich teimladau a nodi ac ymateb i’ch anghenion.

Gall cwnsela:

  • eich helpu i wneud rhywfaint o synnwyr o’r hyn sy’n digwydd i chi
  • rhoi darlun cliriach i chi o’ch anawsterau
  • Eich cefnogi chi drwy gyfnodau anodd yn eich bywyd
  • darparu amgylchedd diogel, sensitif a chefnogol lle gellir archwilio a rhannu teimladau a materion personol
  • Eich helpu i fod ychydig yn fwy lle rydych chi eisiau bod mewn bywyd
  • yn eich galluogi i deimlo’n fwy byw, yn rhydd ac yn y cartrefol gyda chi’ch hun

Mae cwnsela yn ymwneud â’ch helpu i ddatblygu mewnwelediadau i’ch problemau a darganfod eich adnoddau a’ch cryfderau eich hun. Gallwn i gyd elwa o fyfyrio ar hanes ein bywydau ni a rhyddhau rhai o’r teimladau yr ydym wedi bod yn eu cario. Mae’n ymwneud â’ch helpu chi i wneud eich dewisiadau a phenderfyniadau eich hun a chymryd cyfrifoldeb dros eich bywyd eich hun, gan eich galluogi i ddefnyddio’ch talentau a’ch galluoedd, sylweddoli’ch potensial a symud tuag at wybodaeth fwy, agosrwydd a heddwch gyda chi’ch hun.

Footer

Tel: 07870 888141

Hawlfraint © 2019 · Cathrin Wildwood Cwnsela ar Genesis Framework · WordPress · Log in

  • Hafan
  • Cwnsela a Seicotherapi
  • Penodiadau
  • Y Ffordd Rwy’n Gweithio
  • Amdanaf i
  • Cwestiynnau
  • Cysylltwch
  • en English
This site uses cookies: Find out more.