• Skip to primary navigation
  • Skip to main content
  • Skip to footer

Cathrin WIldwood

Cwnsela

  • Hafan
  • Cwnsela a Seicotherapi
  • Penodiadau
  • Amdanaf i
  • Rhianta
  • Cwestiynnau
  • Cysylltwch
  • en English

Rhianta

Gofod Gwrando i Rieni

Mae gwaith rhianta yn rhyfeddol ac yn anodd iawn ar yr un pryd, ac weithiau rydym yn cael trafferth ac yn teimlo ein bod ar ein pen ein hunain. Gofynnir i ni gloddio’n ddwfn, darganfod atebion, a bod ar ein gorau bob dydd, yn aml heb fawr o gymorth.

Mae rhieni yn rhannu amrywiaeth o heriau gyda mi, megis rheoli technoleg ar-lein a gemau cyfrifiadurol, gwybod sut i ddweud na, aros yn agos at eu harddegwyr, dod o hyd i amser i fod yno i’w plentyn mewn bywyd prysur iawn, a phroblemau amser gwely.

Hefyd mae llawer o blant yn wynebu pwysau yn yr ysgol o wahanol fathau – anawsterau dysgu, gwaith cartref, problemau cymdeithasol gyda’u cyfoedion, anghytuno gyda athrawon neu beidio â dilyn rheolau’r ysgol – ac mae’r cyfan yn gallu effeithio ar fywyd gartref.

Mae cymaint o gyngor ar rianta ar gael, sy’n gallu bod yn llethol ac yn ddryslyd.

Rwy’n gweld bod plant yn elwa pan fydd gan eu rhieni le diogel i rannu, ac mae rhywun yn gwrando’n wirioneddol. Does neb yn adnabod eich plentyn fel chi; chi yw’r arbenigwr arnoch chi’ch hun, eich perthynas â’ch plentyn/plant, ac rydych chi’n gwybod am eich teulu a’ch amgylchiadau yn well na neb arall.

Rwyf yma i wrando ac i ddeall. Rwy’n credu y gallwch ddod o hyd i’ch ffordd os ydych chi’n cael eich deall a’ch cefnogi’n dda. Mae’n debyg i’r cymylau symud o’r nefoedd ac wedyn gallwch chi ddod o hyd i’r haul yn eich bywyd unwaith eto.

Gallwch alw heibio am sesiwn unwaith pan fo angen, neu ymrwymo i gefnogaeth reolaidd fel rhiant.

Mae fy ngwaith yn seiliedig ar astudiaethau dwys gyda Hand-in-Hand Parenting, y Neufeld Institute, Dr Gabor Maté a’r Person-Centred Approach i fywyd a pherthnasoedd.

Dewch i wneud gwahaniaeth i’ch bywyd chi ac i fywyd eich teulu, a phrofwch bŵer cwnsela lle y gallwch ddod o hyd i fwy o dawelwch, mwy o hwyl, a’r teimlad nad ydych chi ar eich pen eich hun.

Footer

Tel: 07870 888141

Copyright © 2025 · Cathrin Wildwood on Genesis Framework · WordPress · Log in

  • Hafan
  • Cwnsela a Seicotherapi
  • Penodiadau
  • Amdanaf i
  • Rhianta
  • Cwestiynnau
  • Cysylltwch